Hafan

Mudiad Ymgorfforedig Elusennol (CIO) yw Dŵr Anafon wedi ei sefydlu i ddosbarthu’r elw defnyddiadwy o gynllun hydrodrydannol Ynni Anafon Energy, a adeiladwyd uwchlaw pentref Abergwyngregyn, Gwynedd.

Sefydlwyd yr elusen yn 2017, ac mae ganddi fwrdd o ymddiriedolwyr i ddosrannu grantiau ar gyfer ystod eang o gynlluniau. I ddechrau, doedd y cyllid ond ar gael i breswylwyr pentref Abergwyngregyn a Chrymlyn ond ers Ionawr 2020 mae preswylwyr pentref cyfagos Llanfairfechan hefyd yn gallu ymgeisio am grantiau..

Roedd y grantiau cyntaf ar gyfer cynlluniau o fewn Abergwyngregyn,i alluogi gosod diffibriliwr, i gynorthwyo efo’r gost o symud cofeb ryfel y pentref ac i sefydlu dosbarthiadau Tai Chi.  Gellir canfod rhestr lawn o geisiadau llwyddiannus ar y dudalen ‘Ceisiadau am Grantiau’

I ymgeisio am grant, darllenwch y Canllawiau a chwblhewch un ai’r ‘Ffurflen Gais Unigolion’ neu’r ‘Ffurflen Gais ar gyfer Grwpiau’, yn ddibynnol ar y math o gynllun rydych yn ymgeisio am gyllid ar ei gyfer. Wedi i chi ei chwblhau, e-bostiwch hi at info@dwranafon.co.uk neu postiwch at Dŵr Anafon, Yr Hen Felin, Abergwyngregyn, Llanfairfechan, LL33 0LP.