2018 – 2019

ADRODDIAD BLYNYDDOL DŴR ANAFON 2018 – 2019

Roedd hon yn flwyddyn bwysig yn natblygiad Dŵr Anafon. Ym mis Gorffennaf 2018 derbyniodd £30,000 oddi wrth Ynni Anafon Energy ac roedd am y tro cyntaf mewn sefyllfa i allu ystyried ystod eang o geisiadau am grantiau o amrywiol faint.

Dechreuodd yr elusen y flwyddyn efo naw o ymddiriedolwyr, gyda chyfarfodydd yn cael eu cadeirio gan Nick Rushbrooke ac, yn ei absenoldeb, Roger Williams. Y Trysorydd oedd Chris Parry. Yr ysgrifennydd oedd Jacqui Bugden tan fis Ionawr pan olynwyd hi gan Christine Hume. Yn ystod y flwyddyn ymddiswyddodd Dylan Evans oherwydd galwadau gwaith ac ymunodd Carwyn Jones. Gweddill yr ymddiedolwyr yn ystod yn flwyddyn oedd Liz Gatehouse, Rita Roberts, Wynn Griffiths a Sheila Pedigrew. Cytunodd yr ymddiriedolwyr i gyd i barhau yn eu swyddi ar gyfer y flwyddyn 2019 – 2020.

Yn y flwyddyn 2018 – 2019 derbyniwyd wyth cais am grantiau. Caniatawyd cyllid ar gyfer pedwar ohonynt ac aeth y cynlluniau yn eu blaenau yn llwyddiannus. Cafodd un cais ei dynnu’n ôl gan yr ymgeisydd, gohiriwyd un nes derbyn gwybodaeth bellach a gwrthodwyd dau gynnig gydag awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Yn ogystal, ar ddau achlysur rhoddwyd symiau bychain o arian brys i deulu neu unigolyn mewn argyfwng.

Un cynllun roedd Dŵr Anafon yn falch iawn o fedru ei gefnogi oedd sefydlu yn Abergwyngregyn grŵp Tai Chi sydd yn cyfarfod yn wythnosol efo athro proffesiynol. Hybodd rhan-ariannu’r cwrs cyntaf bobl and oedd ganddynt unrhyw brofiad o Tai Chi, ac and oeddent yn sicr a oedd yn addas ar eu cyfer nhw, i ymuno. Roedd y grŵp yn cynnwys dynion a merched, gydag ystod o oedrannau, gyda’r mwyafrif dros 60 oed. Arweiniodd llwyddiant y cwrs cyntaf at barhad y cwrs gyda llai o ariannu oddi wrth Ddŵr Anafon a mwy o’r gost yn cael ei gyfrannu gan yr unigolion.

Ni allai Tabled Goffa Abergwyngregyn i’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf gael ei weld gan y cyhoedd gan ei fod mewn eglwys sydd bellach mewn perchnogaeth breifat. Cafwyd cyngor arbenigol y dylai gael ei gadw dan do ac nid oedd adeilad addas yn y pentref, felly rhoddodd Parc Cenedlaethol Eryri ganiatad i adeiladu porth eglwys o garreg a llechen dros fynedfa’r fynwent er mwyn lleoli’r gofeb yno. Roedd Cwmni Adfer Abergwyngregyn (ARC) yn ddiolchgar iawn i Ddŵr Anafon, felly, am y grant a roddwyd i adeiladu’r porth eglwys, gan alluogi’r pentref i achub a chadw rhan o dreftadaeth Aber.

Gan fod yn ymwybodol fod llawer o dai Abergwyngregyn oherwydd eu hoedran ymhell o fod yn ynni-effeithlon, darparodd ymddiriedolwyr Dŵr Anafon arian ar gyfer cynllun a ddaeth â Peter Draper, arbenigwr yn y maes, o Gaerdydd i Aber. Galluogodd y grant i saith o dai cynrychioladol o’r rhai yn y pentref gael manteisio ar arolwg personol gan Peter a hefyd  talodd am gyflwyniad yn ddiweddarach mewn cyfarfod  oedd yn agored i’r holl bentrefwyr i’w helpu hwy i ddeall eu cartrefi a’r modd y gellid datrys problemau.

Mae Dŵr Anafon yn edrych ymlaen at gefnogi cynlluniau pellach fydd yn fuddiol i gymuned Aber ac, o Ionawr 2020, grwpiau cymunedol ac unigolion o Lanfairfechan.