2020 – 2021

Mae’r adroddiad hwn ar gyfer y cyfnod o ddechrau Ebrill 2020 hyd at ddiwedd Mai 2021, cyfnod pan y treuliwyd misoedd mewn cyfnodau clo rhannol a chyfangwbl. Dros y cyfnod hwn parhaodd Dŵr Anafon i gynnig grantiau i gymunedau Abergwyngregyn a Llanfairfechan.

Cafwyd llai o geisiadau na’r disgwyl, gan bod llawer o fudiadau wedi atal eu gweithgarwch oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth a gofynion ymbellháu cymdeithasol. Serch hynny, derbyniwyd a chymeradwywyd nifer o geisiadau ac yn Ebrill 2021 bu cynnydd yn y diddordeb mewn ceisiadau am grantiau, yn enwedig o Lanfairfechan.

Ym Mawrth 2019 roedd y prosiect Arbed Ynni Aber wedi cael ei lawnsio yn Abergwyngregyn, gyda’r bwriad o wella effeithlonrywdd ynni yng nghartrefi’r pentref. Ym mis Tachwedd 2019 neilltuodd Dŵr Anafon gyfanswm o £20,000 i alluogi’r rhai oedd wedi cwblhau arolygon i gwblhau’r gwaith a argymhellwyd. Gosodwyd gofynion llym ar gyfer y grantiau hyn. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 31ain Hydref 2020 ac roedd cyfanswm o £9400.38 wedi cael ei ddosbarthu gyda £2225 pellach wedi ei glustnodi ar gyfer cwblhád y gwaith.  Roedd £20,000 pellach wedi ei neilltuo ar gyfer grantiau effeithlonrwydd ynni ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Hyd yma derbyniwyd un cais am tua £2000 gyda nifer o aelwydydd eraill wedi mynegi diddordeb.

Ym mis Mehefin a mis Tachwedd 2020 cyflwynwyd grantiau o £1,191.60 a £750 i Glwb Bowlio Llanfairfechan ar gyfer trwsio eu ffensys terfyn a tho eu pafiliwn.

Hefyd ym mis Mehefin 2020 darparwyd cadair dianc mewn argyfwng ar gyfer Yr Hen Felin at ar gost o £741.00.

Ym mis Hydref 2020 cyflwynwyd grant werth £846.00 i Glwb Croce Llanfairfechan er mwyn darparu offer newydd ar eu cyfer.

Cyflwynwyd tri grant myfwyrwyr dros y cyfnod, cyfanswm o £1,500.00, i dalu costau offer ac ati. Mae Dŵr Anafon wedi gosod uchafswm o £500 yr un ar gyfer ceisiadau o’r fath.

Cyflwynwydtri grant argyfwng, cyfanswm o £1000, i drigolion Abergwyngregyn yn dilyn damwain a llifogydd difrifol yn y pentref. Cyfyngir grantiau argyfwng o’r fath i bobl sy’n byw yn Abergwyngregyn.

Ym mis Mai 2021 derbyniwyd dau gais o werth sylweddol oddi wrth Glwb Hwylio Llanfairfechan a Chyngor Tref Llanfairfechan.  Dyfarnwyd swm o £10,000 i’r Clwb Hwylio fel cyfraniad  mawr tuag at gost ymestyn y parc cychod a darparu cyfleusterau newid newydd. Mae’r cais arall, ar gyfer gwelliannau i Warchodfa Natur Morfa Madryn ar gost tebygol o £16,700, dan ystyriaeth, yn ddibynnol ar drafodaethau pellach efo Cyngor y Dref a’r tîm prosiect. Ddiwedd mis Mai 2021, achoswyd niwed difrifol i bafiliwn Clwb BowlioLlanfairfechan mewn storm yn ystod y tywydd garw diweddar. Cymeradwywyd cais am arian i dalu eu hyswiriant ychwanegol ac ar gyfer trwsio a chryfhau’r adeilad ymhellach a thalwyd cyfanswm o £1,340.00 iddynt.