2021 – 2022

Mae’r adroddiad hwn ar gyfer y cyfnod Ebrilll 2021 hyd at ddiwedd Mai 2022, adeg pan roeddem yn dal i fod dan rai cyfyngiadau Cofid a/neu gyfnodau clo. Dros y cyfnod yma parhaodd Dŵr Anafon i gynnig grantiau i gymunedau Abergwyngregyn a Llanfairfechan.

Roedd ceisiadau – fel gyda’r f;lwyddyn flaenorol – yn llai niferus na’r disgwyl, gan bod llawer o fudiadau wedi  atal eu gweithgarwch oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth a gofynion ymbellháu cymdeithasol.  Search hynny, cafodd nifer o geisiadau eu derbyn a’u cymeradwyo ac erbyn Mai 2022 roedd diddordeb mewn ymgeisio am grantiau wedi ei adnewyddu, yn enwedig o Lanfairfechan.

Ym Mawrth 2019 roedd y prosiect Atal Ynni Aber wedi cael ei lawnsio yn Abergwyngregyn, gyda’r nod o wella effeithlonwydd ynni cartrefi’r pentref. Ym mis Tachwedd 2019 neilltuodd Dŵr Anafon gyfanswm £20,000 i alluogi’r rhai oedd wedi cwblhau arolygon i gwblhau’r gwaith a argymhellwyd. Gosodwyd gofynion llym ar gyfer y grantiau hyn.  Yn y flwyddyn ariannol hon dosbarthwyd £3769 mewn grantiau effeithlonrwydd ynni, gyda cheisiadau eraill wedi eu cyflwyno ond yn disgwyl cwblhád y gwaith.

Ym mis Mai 2021 talwyd grant o £1,340 i Glwb Bowlio Llanfairfechan ar gyfer trwsio to eu pafiliwn a ddifrodwyd yn ddifrifol mewn stormydd. Ym mis Mehefin 2021 cytunwyd ar grant o £10,000 ar gyfer gwelliannau hanfodol i Glwb Hwylio Llanfairfechan, ac ym mis Ebrill 2022 cytunwyd ar grant o £2094 ar gyfer gwelliannau a gwaith trwsio ar guddfannau gwylio adar ym Morfa Madryn. Ar ddiwedd un y flwyddyn ariannol derbyniwyd cais oddi wrth Glwb Golff   Llanfairfechan am £4750 am welliannau i’w hadeilad a chytunwyd i dalu hwnnw.

Ym mis Medi 2021 talwyd grant argyfwng o £250i deulu Jenna Jones yn Llanfairfechan yn dilyn ei marwolaeth trist trwy foddi, i gynrorthwyo gyda chostau’r angladd. Fel arfer, cyfyngir grantiau o’r fath i rai sy’n byw yn Abergwyngregyn, ond gan y bu Jenna gynt yn gyflogedig yn Yr Hen Felin and ac yn adnabyddus ac yn annwyl gan drigolion Aber, gwnaeth bwrdd yr Ymddiriedolwyr eithriad yn ei hachos hi.