Ymddiriedolwyr

Nick Rushbrooke

Mae Nick yn byw yn Llanfairfechan ers pedair blynedd ar ddeg. Mae o’n Beiriannydd Suful, Dŵr ac Amgylcheddol Siartredig, sydd wedi gweithio yn y diwydiant dŵr ers dros ddeng mlynedd ar hugain nes ymddeol fel un o Gyfarwyddwyr cwmni United Utilities. Ers hynny mae o wedi bod yn Gadeirydd nifer o gwmnïau nid-er-elw ac elusennau ar Lannau Merswy ac yn Ustus Heddwch ar Lannau Merswy ac yng Nghonwy. Gwnaed ef yn Ddirprwy Raglaw Glannau Merswy yn 2006. Mae ei ddiddordebau presennol yn cynnwys Gefeillio Tref Llanfairfechan, y Rotari, gwirfoddoli efo’r Ymddiridolaeth Genedlaethol a bod yn Aelod o Las Cymru. Mae o’n briod â Mairead ac mae gennyn nhw dri o blant wedi tyfu a dwy wyres.

Chris Parry

Cafodd Chris Parry ei eni a’i fagu yn Llanfairfechan. Mae o’n mwynhau gweithgareddau awyr agored ac mae o’n ymddiddori’n frwd mewn elusennau a chlybiau lleol. Addysgwyd Chris yn Ysgol Ffriars, Bangor, ac mae bellach yn Bennaeth Cynorthwyol yn yr un ysgol. Mae ganddo 2 o blant; un yn dal i fod yn Ysgol Friars eu hunain ac un yn y brifysgol ! Mae Chris yn aelod o’r bwrdd ymddiriedolwyr ers 2017 a fo yw ein trysorydd.

Liz Gatehouse

Mae Liz yn byw yn Aber gyda’i theulu ers 45 mlynedd. Cafodd ei phlant eu magu yma ac aethant i Ysgol Llandygai ac Ysgol Ffriars. Mae hi wedi bod yn rhan o lawer o weithgareddau’r pentref gan gynnwys y cynllun Hydro, y Clwb Garddio, y Bartneriaeth Dyffryn Treftadaeth a golygu newyddlen Aber. Mae hi hefyd wedi bod yn drysorydd tri mudiad gwahanol ac mae hi’n gwybod sut mae pwyllgorau’n gweithio. Fe weithiodd hi yn Swyddfa Deithio Undeb y Myfyrwyr am nifer o flynyddoedd ac efo Cyngor am Bopeth am dros ddeugain mlynedd. Rhoddodd y rôl ymgynghorol hon wybodaeth eang iddi am faterion cymdeithasol. Bu hi’n ymchwilio ac yn cyfrannu i’r prosesau enwebu ar gyfer dwy Wobr y Frenhines, gan gynnwys un ar gyfer ARC – roedd y ddau’n llwyddiannus.

Rita Roberts

Mae Rita yn briod a chanddi ddwy ferch sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi byw yn Abergwyngregyn ers 42 mlynedd a chyn hynny byddai hi’n ymweld i aros yma efo’r teulu yn ystod pob gwyliau ysgol ers iddi fod yn 4 mlwydd oed. Cwblhaoedd ei hyfforddiant nyrsio yn y Manchester Royal Infirmary, a’i hyfforddiant mewn Bydwreigiaeth a Nyrsio Ardal ym Mangor. Bu’n gweithio fel Arweinydd Tîm Cymuned ym Methesda ac ym Mangor am dros 36 mlynedd, nes iddi ymddeol yn ddiweddar. Mae Rita yn aelod o’r Pwyllgor ar gyfer Elusendai Aber, ARC, Clwb Snwcer Aber a hi yw Clerc y Cyngor Cymuned. Gan ei fod yn lle sy’n agos at ei chalon, mae hi’n awyddus i wneud cyfraniad ystyrlon i fywyd pentrefol yn Aber, ac i sicrhau fod y gymuned yn gweithio ynghyd i roi i’w thrigolion yr amgylchiadau gorau posib i fyw ynddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau, amgylchedd gynaliadwy a chymdogaeth ddiogel lle mae trigolion yn gofalu am ei gilydd, yn enwedig yr unigolion mwyaf bregus.

Wynn Griffiths

Mae teulu Wynn wedi byw yn Aber ers cenedlaethau a chafodd ei eni a threuliodd ei oes gyfan yn Abergwyngregyn. Mae o’n ffermio uwchlaw’r pentref ac mae o hefyd yn gontractiwr ffensio. Mae Wynn wedi chwarae rôl flaenllaw yn y gymuned am flynyddoedd lawer, yn gwasanaethu fel Cynghorydd Cymuned ac yn un o Gyfarwyddwyr Cwmnu Adnewyddu Abergwyngregyn gyda chyfrifoldeb arbennig am wasanaethu meysydd Parcio Rhaeadr Aber.

Gareth Owen

Ganed Gareth yn Wrecsam a graddiodd o Brifysgol Bangor. Treuliodd 25 mlynedd yn Llundain yn gweithio yn y diwydiant ffilm, ac am 16 o’r blynyddoedd hynny’n gweithio’n unig gyda Syr Roger Moore. Ail-leolodd i Lanfairfechan yn 2017 lle mae o’n bartner mewn asiantaeth deithio leol. Mae o’n awdur 19 llyfr – hyd yn hyn!

Jenny Jones

Bu teulu Jenny’n byw yn Abergwyngregyn ers cenedlaethau a chafodd ei magu yn y pentref cyn symud i ffwrdd i fferm y teulu yn bedair ar ddeg oed. Mae hi’n Gymraes rugl ac mae hi’n briod gyda theulu cyfun o ddau fab, llysferch a llysfab. Mae Jenny wedi dysgu cerddoriaeth, yn enwedig piano, i blant ac oedolion o bob oed o lefel dechreuwyr hyd at lefel gradd ac mae hi wedi cyfeilio i nifer o gorau, gan gynnwys Corws y Brifysgol, Cantorion Menai ac, yn fwy diweddar, Corws Nad Â’n Angof ar gyfer y rhai sy’n dioddef o dementia. Mae gan Jenny brofiad eang o weithio gyda phlant ag Anghenion Ychwanegol. Symudodd Jenny’n ôl i Abergwyngregyn yn 2018, ac ers hynny mae hi wedi dod i ymwneud fwyfwy ym mywyd y pentref ac mae hi’n un o Gyfarwyddwr ARC.

Ann Westmoreland

Mae Ann wedi gweithio yn y sector gwirfoddol am y rhan fwyaf o’i bywyd gwaith, yn gyflogedig ac yn ddi-gyflog. Ers 2007 mae hi wedi gweithio i’r CVSC – y Cyngor Gwirfoddol Lleol ar gyfer Cyngor Bwrdeisdref Conwy. Mae ganddi adnabyddiaeth eang o’r sector gwirfoddol, yn enwedig ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a phrofiad mewn codi arian, ymroddiad, gwirfoddoli a gweithio mewn partneriaeth.

George Mair

Ganed George yn yr Alban, a graddiodd gyda gradd meistr mewn Saesneg a Chymdeithaseg o Brifysgol Glasgow ac yna gradd MSc mewn Cymdeithaseg o Strathclyde. Ym 1987 dyfarnwyd iddo Ddoethuriaeth mewn Criminoleg o Ysgol Economeg Llundain. Yn Llundain gweithiodd yn Uned Ymchwil a Chynllunio’r Swyddfa Gartref, yn dadansoddi data ymchwil a pholisi am bron i ugain mlynedd, ac yna symudodd i Lerpwl ble y bu’n Athro Cyfiawnder Droseddol yn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol John Moores rhwng 1995 a 2012.  Symudodd wedyn i Brifysgol Hope Lerpwl i adeiladu a rheoli Adran Gwyddor Gymdeithasol gan ddiweddu’n Bennaeth y Gyfraith cyn ymddeol yn 2020. Mae o wedi ysgrifennu’n helaeth ar drosedd a chyfiawnder. Bu’n Ysgrifennydd Gweithredol ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gymdeithas Griminoleg Brydeinig, yn Aelod o Fwrdd Prawf Glannau Merswy ac yn aelod o Bartneriaeth Diogelwch Cymuned Lerpwl. Symudodd ef a’i wraig i Lanfairfechan yn ddiweddar; mae ganddynt bedwar o blant wedi tyfu.

John Hulme

Fy enw i yw John Hulme. Symudais i Lanfairfechan ar ddiwedd 2021. Mae fy nghefndir mewn ysgrifennu (Mae gennyf radd meistr mewn newyddiaduriaeth ac rwyf yn fardd cyhoeddiedig.) Cyn y cyfnod clo, roeddwn yn rhannu rhai o’m profiadau fel cyn ofalwr cartref (yn ogystal â’m agwedd at faterion megis pryder profedigaeth, iselder, ynysu cymdeithasol ac ati) fel bardd perfformio, yn ôl yng Nghilgwri lle’r arferwn fyw. Efallai dyna pam mai fy ymgais gyntaf at rwydweithio cymdeithasol ar ôl symud i Lanfairfechan oedd cynnal cwpl o nosweithiau meic agored.

Aziz Maki

Mae Aziz yn wyneb cyfarwydd yn Aber, yn rhedeg Caffi Hen Felin ers 2014. Ar ôl graddio o Ysgol Gyfrifeg Llundain, bu Aziz yn gweithio mewn amryw o gofrestrau cyfrifyddu yn Llundain. Ei swydd olaf, cyn symud i Aber, oedd mewn cwmni fferyllol mawr. Mae Aziz yn gobeithio y bydd ei gefndir ariannol a busnes yn ddefnyddiol i Dŵr Anafon.


Alwyn Nixon
Ymunodd Alwyn â Dŵr Anafon ym mis Ebrill 2023.

Yn briod ag Ann, gyda dau o blant sydd wedi tyfu i fyny a dau o wyrion ac wyresau. Mae Alwyn wedi bod yn byw yn Aber ers 2020. Wedi ymddeol yn ddiweddar, gweithiodd Alwyn yn gyntaf fel cynllunydd awdurdod lleol ac yna fel Arolygydd Cynllunio ac Amgylchedd Llywodraeth Cymru.

Mae ei ddiddordebau yn cynnwys cerdded a rhedeg pellter hir a bryniau, garddio a gwirfoddoli gyda sefydliadau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (tîm gardd Castell Penrhyn), Cymdeithas Eryri (gan gynnwys Partneriaeth Treftadaeth y Carneddau), Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.