2019 – 2020

LLWYDDIANNAU

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon rhoddodd Dŵr Anafon grantiau ar gael i gymuned Llanfairfechan yn ogystal ag Abergwyngregyn am y tro cyntaf.

Ar 23ain Hydref 2019 cynhaliwyd cyfarfod yn Llanfairfechan gyda gwahoddiadau’n cael eu hanfon allan i gynrychiolwyr clybiau a mudiadau. Darparwyd gwybodaeth a dosbarthwyd copïau o’r Canllawiau a’r Ffurflenni Cais. Gwahoddwyd ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau o Ionawr 2020 ymlaen.

Derbyniwyd a chymeradwywyd ceisiadau oddi wrth Glwb Bowlio Llanfairfechan a Chlwb Croce Llanfairfechan ymMawrth 2020, gyda thaliad y symiau y gofynwwyd amdanynt yn digwydd unwaith y derbyniodd Dŵr Anafon dalebau wedi’u derbynebu .

Sefydlwyd Cynhaliaeth Strydoedd Llanfairfechan mewn ymateb i’r Pandemig Coronafeirws i gynnig cefnogaeth i rai yn y gymuned. Roedd Dŵr Anafon yn falch o fedru darparu grant o £500 ar fyr rybudd i gefnogi’r fenter.

Ym Mawrth 2019 lawnsiwyd y prosiect Arbed Ynni Aber yn Abergwyngregyn, gyda’r nod o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi’r pentref. Darparodd Dŵr Anafon grant o £1500 i dalu i Peter Draper o Rounded Developments, Caerdydd, gwblhau arolygon effeithlonrwydd ar 7 cartref ac adrodd yn ôl i’r pentref mewn cyfarfod agored. Gwnaed yr arolygon a dychwelodd Peter i Aber i roi cyflwyniad ar 2ilAwst 2019. Ymrwymodd un ar bymtheg o’r rhai a fynychodd y cyfarfod hwnnw i asesu eu cartrefi hwythau a daethant i fynychu diwrnod hyfforddi i’w galluogi i gywain gwybodaeth arolwg er mwyn i Peter Draper fedru darparu adroddiad ar eu cartrefi hwy a chynnig argymhellion.

Yn Nhachwedd 2019 clustnododd Dŵr Anafon gyllideb o £20,000 ar gyfer galluogi’i’r rhai oedd wedi cwblhau arolygon i fedru talu am wneud y gwaith a argymhellwyd. Gosodwyd meini prawf llym ar gyfer y grantiau hyn.

Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol roedd £6,633.78 wedi cael ei ddyrannu. Gosodwyd  31ain Hydref 2020 fel dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am grant o’r prosiect hwn.

Rhoddwyd grant o £11,000 i adeiladu porth mynwent lle y gellid gosod Carreg Goffa Rhyfeloedd Abergwyngregyn unwaith y gellid ei symud allan o Eglwys S. Bodfan, sydd belllach mewn perchnogaeth breifat. Ailgysegrwyd y gofeb mewn gwasanaeth a gynhaliwyd ar 1afMawrth 2020. Gosodwyd plac yno i gydnabod cefnogaeth Dŵr Anafon ynghŷd â chymorth Cadw, Yr Ymddiriedolaeth Cofebau Rhyfel, Distyllfa Aber Falls, Dŵr Cymru ac aelodau’r cyhoedd.

Cefnogodd Dŵr Anafon Wersi Tai Chi yn Aber gyda grant dros y flwyddyn ariannol o £2047 gyda’r cyfranogwyr yn cwrdd â gweddill y gost.

Darparwyd grant o £245 ar gyfer Sgip Cymunedol. Rhoddwyd un grant argyfwng o £500 yn dilyn damwain.